.

Yma o Hyd Lyrics

Dwyt ti'm yn cofio Macsen,
Does neb yn ei nabod o;
Mae mil a chwe chant o flynyddoedd
Yn amser rhy hir I'r co';
Pan aeth Magnus Maximus o Gymru
Yn y flwyddyn tri-chant-wyth-tri,
A'n gadael yn genedl gyfan
A heddiw: wele ni!
[Chorus]
Ry'n ni yma o hyd,
Ry'n ni yma o hyd,
Er gwaetha pawb a phopeth,
Er gwaetha pawb a phopeth
Ry'n ni yma o hyd.
Ry'n ni yma o hyd,
Er gwaetha pawb a phopeth,
Er gwaetha pawb a phopeth
Ry'n ni yma o hyd.
Chwythed y gwynt o'r Dwyrain,
Rhued y storm o'r môr,
Hollted y mellt yr wybren
A gwaedded y daran encôr,
Llifed dagrau'r gwangalon
A llyfed y taeog y llawr
Er dued yw'r f**ddu o'n cwmpas
Ry'n ni'n barod am doriad y wawr!
[Chorus]

Cofiwn I Facsen Wledig
Adael ein gwlad yn un darn
A bloeddiwn gerbron y gwledydd
'Mi fyddwn yma tan Ddydd y Farn! '
Er gwaetha pob Dic Sion Dafydd,
Er gwaetha 'rhen f**i a'I chriw
Byddwn yma hyd ddiwedd amser
A bydd yr iaith Gymraeg yn fyw!

[Chorus]
Report lyrics
Yma o Hyd (1983)
Y Wên Na Phyla Amser Cwm Ffynnon Ddu Adlais y Gog Lwydlas Tra Bo Hedydd Laura Llywelyn Ffidil yn y To Hoffter Gwilym / Mynydd yr Heliwr / Nans o'r Felin / Hoffedd Jac Murphy Cân i Wiliam Cân y Medd Per Oslef Y Chwe Chant a Naw Yma o Hyd
Top Dafydd Iwan ac Ar Log Lyrics